Datganiad o Fwriad
Mae Coleg Cymunedol YMCA Cymru’n darparu dysgu i greu cymunedau gwell
Bydd Coleg Cymunedol YMCA Cymru’n:
- cefnogi sefydliadau i ddarparu cyfleoedd dysgu sy’n galluogi pobl i gael effaith gadarnhaol ar eu bywydau eu hunain ac i chwarae rhan weithredol yn eu cymunedau eu hunain;
- darparu ystod o gyfleoedd addysgol arbennig i bobl sy’n dysgu trwy’r rhaglen Rheoli Troseddwyr;
- cefnogi sefydliadau Gwaith Ieuenctid gwirfoddol a statudol i ddatblygu gallu potensial y gweithlu i weithio gyda phobl ifanc.