Polisïau
Gellir lawrlwytho gwybodaeth am bolisïau Coleg Cymunedol YMCA Cymru trwy glicio ar y dolenni ar y dudalen hon.
Mae’r holl bolisïau wedi’u diweddaru ar gyfer blwyddyn academaidd 2011-2012.Siartr y Coleg
Mae nifer o bolisïau yn dal i gael eu datblygu, a bydd fersiynau 2011-2012 o’r rhain ar gael nes y cânt eu diweddaru.
Mae’r Coleg yn darparu cyfleoedd addysg mewn canolfannau cymunedol ledled Cymru.
Cynigir rhaglenni astudio ar lefel mynediad a sylfaen. Sail lydan pob dysgu yw galluogi myfyrwyr i feithrin hyder yn eu gallu eu hunain i lwyddo.
Bydd myfyrwyr yn:-
- Cael eu trin gyda’r un parch a, lle bo hynny’n bosibl, yn cael mynediad cyfartal i holl ddarpariaeth Coleg Cymunedol YMCA Cymru.
- Cael eu dysgu mewn amgylchedd sy’n ddiogel ac sy’n arwain at ddysgu effeithiol.
- Derbyn gwybodaeth am eu cynnydd mewn modd cefnogol.
- Derbyn manylion am asesiadau ymhell cyn y dyddiadau i gwblhau gwaith.
Mae gan fyfyrwyr hawl i’r canlynol:
- Proses asesu cychwynnol i adnabod anghenion dysgu ac i gydnabod gwybodaeth/sgiliau blaenorol.
- Esboniad o amcanion a chanlyniadau’r cwrs a’r meini prawf asesu.
- Gwasanaeth tiwtora sy’n gyson ag amcanion y cwrs ac â’u gofynion fel unigolion.
- Cyngor ar lwybrau dilyniant.
- Cyngor ar gyrsiau astudio amgen yn y coleg a gan ddarparwyr eraill.
- Mynediad i drefn gwyno agored, deg ac effeithiol.
Trefn Gwyno
Bydd y Coleg yn ystyried pob cwyn am ei ddarpariaeth Addysg Bellach.
Os bydd cwyn, dylid dilyn y drefn a ganlyn:-
- Ar faterion yn ymwneud â darpariaeth addysgol dylai’r sawl sy’n cwyno sôn yn y lle cyntaf wrth y tiwtor sy’n gyfrifol am ei gwrs / chwrs. Ar faterion yn ymwneud â lleoliad y cwrs dylai’r sawl sy’n cwyno sôn yn y lle cyntaf wrth Reolwr/wraig y Ganolfan.
- Yn yr achosion uchod, os nad yw’r sawl sy’n cwyno yn fodlon ar y canlyniad dylai gysylltu â Phennaeth Coleg Cymunedol YMCA Cymru dros y ffôn ar (029) 20755444 neu drwy lythyr at Uned 6, Cleeve House, Lambourne Crescent, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GP. Cydnabyddir pob cwyn trwy lythyr ac ymchwilir i bob cwyn gan Bennaeth y Coleg mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Corff Llywodraethol. Bydd rhai sy’n cwyno’n derbyn hysbysiad am yr ymchwiliad o fewn 14 diwrnod ar ôl derbyn y cwyn.
- Os yw’r sawl sy’n cwyno yn anfodlon ar y canlyniad, gall gysylltu ag Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (DELLS) Llywodraeth Cynulliad Cymru trwy lythyr at DELLS, Ffynnon Las, The Orchards, Ilex Close, Llanisien, Caerdydd, CF14 5EZ.
- Yn y pen draw gellir cwyno wrth y Llywydd, mewn Llythyr i Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd CF99 1NA.