Cwestiynau Cyffredin gan Fyfyrwyr

1. Ble mae Coleg Cymunedol YMCA Cymru?

Yn wahanol i’r rhan fwyaf o golegau addysg bellach, nid yw Coleg Cymunedol YMCA Cymru’n rhedeg cyrsiau yn ei bencadlys. Yn hytrach, mae’r Coleg yn darparu cyrsiau mewn canolfannau yn y gymuned. Ewch i’r adran Cyrsiau i weld beth sydd ar gael yn eich ardal chi.

 

2. I bwy mae’r Coleg yn rhedeg cyrsiau?

Bwriedir cyrsiau’r Coleg ar gyfer unrhyw un 16 oed a throsodd. Mae rhai cyrsiau ar gyfer ystod oedran penodol (e.e. TG i Rai dros 50 Oed) ond mae’r mwyafrif yn hyblyg iawn, ac yn agored i bawb o rai sydd newydd adael yr ysgol i ddysgwyr hŷn.

 

3. Pa gymwysterau sydd ar gael trwy’r Coleg?

Mae’r rhan fwyaf o’r cymwysterau sydd ar gael trwy’r Coleg yn dystysgrifau’r Rhwydwaith Coleg Agored. Mae’r lefel yn amrywio yn ôl y cwrs. Mae rhai cyrsiau wedi’u hachredu gan OCR ac mae eraill wedi’u hachredu gan Ddinas ac Urddau.

 

4. Faint yw cost y cyrsiau?

Nid yw’r Coleg yn codi tâl am ei gyrsiau. Fodd bynnag, mae rhai o’r lleoliadau lle byddwn yn rhedeg cyrsiau yn gwneud hynny. Cysylltwch â’r lleoliad yn uniongyrchol i gael manylion a ffioedd. Mae nifer bychan iawn o gyrsiau a redir gan Goleg Cymunedol YMCA Cymru yn codi ffioedd arholi neu achredu. Cysylltwch â ni am fanylion.

 

5. A oes help ariannol ar gael i fyfyrwyr?

Mae gan y Coleg Gronfa Ariannol Wrth Gefn i helpu myfyrwyr sydd ag angen cefnogaeth ychwanegol. Am ragor o fanylion gweler ’Canllaw’r Coleg’ yng nghategori Llawlyfrau’r Llyfrgell.

 

6. A yw’r Coleg yn darparu cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg?

Mae Coleg Cymunedol YMCA Cymru’n cynnig nifer cyfyngedig o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys nifer o gyrsiau Gwaith Ieuenctid. Cysylltwch â’r Coleg ni am fanylion pellach.

Am ragor o gyrsiau a ddarperir yn Gymraeg, ewch i www.careerswales.com

CPD
Newyddion
YMCA Library Catalogue Update
The YMCA Wales Community...