Cwestiynau Cyffredin gan Bobl ar Brawf

1. A fydd fy nghwrs yn fy helpu i gael gwaith?


Bydd. Bydd dysgwyr sy’n llwyddo i gwblhau cwrs a achredir gan y RhCA yn derbyn tystysgrif fel tystiolaeth o’u dysgu. Os byddwch chi’n gwneud cais am swydd neu le ar raglen hyfforddi ewch â’ch tystysgrif i’r cyfweliad gan ei bod yn dangos eich cyflawniad.

 

2. Os byddaf i’n llwyddo i gwblhau’r cwrs a fydd y dystysgrif yn sôn am y Gwasanaeth Prawf?

Na fydd. Dyfernir tystysgrifau trwy Goleg Cymunedol YMCA Cymru ac nid oes sôn am y Gwasanaeth Prawf.


3. A fydd angen imi wneud gwaith cartref?

Na fydd. Gwneir pob gwaith ar gyfer y cwrs yn ystod eich lleoliad gwaith.

 

4. A yw hyn yn golygu y byddaf i mewn ystafell ddosbarth?

Na. Bydd eich dysgu’n digwydd wrth ichi weithio yn y gymuned i gwblhau eich gorchymyn.

 

5. Rwy’n cael trafferth i ddarllen ac ysgrifennu. A fydd yn bosibl imi gael help?

Bydd swyddfa eich Gwasanaeth Prawf neu eich goruchwylydd ar gael i gynnig arweiniad ichi ar sut i wella eich darllen a’ch ysgrifennu. Peidiwch â phoeni am eich sillafu a’ch gramadeg wrth ichi lenwi eich llyfr gwaith oherwydd fyddwch chi ddim yn colli marciau am hyn.

CPD
Newyddion
YMCA Library Catalogue Update
The YMCA Wales Community...