Cwestiynau Cyffredin gan Bartneriaid


1. Beth yw’r manteision o fod yn bartner i Goleg Cymunedol YMCA Cymru?
Gall Coleg Cymunedol YMCA Cymru ddarparu gwasanaethau dysgu ac achredu o ansawdd uchel, a chyllid hefyd ar brydiau.

Yn 2006 enillodd y Coleg y radd uchaf bosibl ar draws ei holl ddarpariaeth yn sgil Arolwg gan Estyn, felly gallwch ddisgwyl dysgu a chefnogaeth o ansawdd uchel, cyfraddau cyflawniad uchel a gweithgarwch cost-effeithiol.

 
2. Sut y gall fy sefydliad ddod yn bartner i’r Coleg?

I ddod yn bartner mae angen ichi adnabod angen dysgu sydd heb gael ei ateb yn unman arall. Rhaid i bob darpariaeth fod yn gyson â datganiad o fwriad y Coleg, sydd i’w weld yma

Rhoddir blaenoriaeth i gyrsiau sy’n ymdrin â’r materion a ganlyn:

1. Gweithgarwch Cymunedol
2. Dieithrwch Cymdeithasol
3. Adfywio Cymunedau
4. Datblygu gallu cynhenid gwaith ieuenctid
5. Gwella cyflogadwyedd
6. Cysylltu â chymunedau lleiafrifol
7. Cynaladwyedd amgylcheddol
8. Llythrennedd ariannol

Os hoffech chi drafod cyfleoedd i weithio mewn partneriaeth cysylltwch â’r Coleg ar 02920 755 444

3. Pwy fydd fy nghyswllt yn y Coleg?

Mae hyn yn dibynnu pa aelod o dîm y swyddfa sy’n gweithio agosaf gyda chi:

Nicola Campbell
Rheolwraig Datblygu Darpariaeth (Darpariaeth Draddodiadol) n.campbell@ymca-wales.ac.uk

Nathan Jones
Rheolwr Datblygu Darpariaeth (Rheoli Troseddwyr)
n.jones@ymca-wales.ac.uk

Margaret Jones
Pennaeth y Coleg
m.a.jones@ymca-wales.ac.uk

 
4. I ble/pryd y dylwn i anfon anfonebau i’r Coleg?
Dylech anfon pob anfoneb am gyrsiau ar ddiwedd y tymor perthnasol (h.y. Rhagfyr, Ebrill, Gorffennaf).
Dylid cyfeirio pob anfoneb i’r Coleg fel a:

Alan Tinsley
Coleg Cymunedol YMCA Cymru
Uned 6, Cleeve House
Lambourne Crescent
Parc Busnes Caerdydd
Llanisien
Caerdydd
CF14 5GP

CPD
Newyddion
YMCA Library Catalogue Update
The YMCA Wales Community...