Adnoddau Gwaith Ieuenctid Lefel Tri

Adnoddau Gwaith Ieuenctid Lefel Tri
Tystysgrif Lefel Tri Mewn Gwaith Ieuenctid
Cynlluniwyd y Dystysgrif Lefel Tri mewn Gwaith Ieuenctid i sicrhau bod yr hyfforddiant a’r cymwysterau addas ar gael ar gyfer pob gweithiwr ieuenctid, bod gweithwyr sydd heb gymwysterau yn cael eu hannog i symud ymlaen, a bod y cymhwyster wedi’i fapio i’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol. Wrth gwblhau’r dystysgrif, caiff y gweithiwr ei gydnabod fel Gweithiwr Cymorth Ieuenctid yng Nghymru.
Ychwanegir y Dystysgrif mewn Gwaith Ieuenctid at raglen Coleg Cymunedol YMCA Cymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2009-10, ac mae’n cael ei redeg gan nifer o diwtoriaid ledled Cymru.
I alluogi myf yrwyr a thiwtoriaid i gael mynediad at yr holl ddogfennau perthnasol gan ddefnyddio’r rhyngrwyd ac i sicrhau na fydd y Coleg yn gwneud gormod o gopïau, bydd y dudalen hon yn cynnwys fersiynau electronaidd (Cymraeg a Saesneg) o’r holl ddogfennau, ar gyfer myfyrwyr a thiwtoriaid.
Mae angen cyfrinair i agor y dogfennau hyn, felly os hoffech lawrlwytho copi o unrhyw ddogfen cysylltwch â Becky Watson Stubbs a rhoi manylion eich enw a’ch cwrs presennol iddi. Rhoddir cyfrinair i chi a wnaiff eich galluogi i gael at ffeiliau’r flwyddyn academaidd hon. Mae gan y dogfennau tiwtor/myfyriwr gyfrinair gwahanol felly bydd arnoch angen cysylltu â Becky unwaith yn rhagor i gael at y ddau.
Sylwer y caiff cyfrineiriau eu newid ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd, a gellir cadw cofnod o’ch enw a manylion eich cwrs. Mae’r dogfennau hyn ar gael ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn unig a gellir eu newid.
 
Dolenni Gwaith Ieuenctid Defnyddiol
Ar gyfer y sawl sy’n dymuno ymchwilio ymhellach, mae rhestr ddefnyddiol o wefannau wedi’i gynnwys isod. Os oes gennych awgrymiadau am unrhyw ddolenni eraill, anfonwch neges at yr e-bost uchod os gwelwch yn dda.
 
Datganiad Cwricwlwm Gwaith Ieuenctid Cymru
The Right Track Pack – Canllaw ar gyfer Gweithwyr Ieuenctid ynghylch Digartrefedd a Thai.
Gwaith Ieuenctid Cymru – Coleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin, a Choleg Cymunedol YMCA Cymru
Gwaith leuenctid Cymru 
Unicef –Hawliau’r Plentyn
Thanks Sam 
Diolch Sam
Pobl Ifanc, Gwaith Ieuenctid, Gwasanaeth Ieuenctid – Strategaeth Gwasanaeth Ieuenctid Cenedlaethol ar gyfer Cymru (2007)  
CPD
Newyddion
YMCA Library Catalogue Update
The YMCA Wales Community...