Am Y Coleg

altMae Coleg Cymunedol YMCA Cymru’n gweithredu’n wahanol iawn i’r rhan fwyaf o Golegau addysg bellach. Yn ystyr draddodiadol y gair, nid yw’n goleg o gwbl. Yn hytrach na defnyddio man canolog, cynhelir pob cwrs mewn lleoliadau yn y gymuned ac fe’u darperir gan diwtoriaid lleol. Mae hyn yn creu awyrgylch cyfforddus a chyfarwydd i ddysgu ynddo sy’n apelio at bawb sydd am ddysgu sgiliau newydd, o rai sydd newydd adael yr ysgol i bobl wedi ymddeol.

Mae’r Coleg yn cynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu i bobl ledled Cymru, ac mae’n annog myfyrwyr i ddefnyddio’r hyn a ddysgant i wella ansawdd eu bywydau eu hunain a’u cymunedau. Mewn arolwg diweddar gan y llywodraeth dyfarnwyd graddau eithriadol i’r Coleg yn ei sector, gan ei wneud y darparwr Dysgu Cymunedol i Oedolion gorau yng Nghymru.

Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau’r Coleg yn arwain at dystysgrifau’r Rhwydwaith Coleg Agored (RhCA) a dderbynnir gan ddarparwyr addysg bellach ac uwch, a gan lawer o gyflogwyr.

Mynychwyd cyrsiau yn y Coleg gan bron 3500 o ddysgwyr yn ystod y flwyddyn academaidd 2005-2006, mewn pynciau mor amrywiol â Chymraeg i Oedolion, Cymorth Cyntaf, Cwnsela a Gwaith Ieuenctid. Enillwyd tystysgrifau RhCA gan 92%$1–$2ffigur nodedig iawn.

I wybod rhagor am y Coleg, ewch i’r datganiadau i’r wasg yn yr adran lawrlwytho ar y tudalen hwn.

CPD
Newyddion
YMCA Library Catalogue Update
The YMCA Wales Community...
Updated Form Pack now online
An updated version of...
CaPtureD and Train & Track
The College is proud...