Gwasanaethau Cymorth i Ddysgwyr
Gwasanaethau Cymorth i Ddysgwyr
Mae sawl ffordd o gael cymorth gan Goleg Cymunedol YMCA Cymru.
Mae’r Coleg yn cynnig cyngor a gwybodaeth am wasanaethau cymorth i ddysgwyr yn rhad ac am ddim. Os nad yw’r Coleg yn cynnig ei wasanaeth ei hun, neu os nad oes ganddo’r wybodaeth y bydd ei hangen ar y dysgwyr, rhoddir manylion cyswllt sefydliadau arbenigol neu ddarparwyr lleol eraill. Mae cyngor a gwybodaeth ar gael yn y Saesneg, ac mae rhai deunyddiau printiedig ar gael yn y Gymraeg hefyd. Os bydd ar ddysgwyr angen gwybodaeth mewn ieithoedd eraill neu fformatau, fe wnaiff staff y Coleg ymdrechu i ddiwallu eu hanghenion. Gall dysgwyr a Thiwtoriaid gael cyngor a gwybodaeth ar nifer o bynciau:-
Cyngor a Gwybodaeth
Tiwtor y Cwrs
Cymorth Sgiliau Astudio
Cymorth Dysgu Ychwanegol
Gofal Plant
Gwasanaeth Cwnsela
Dysgwyr ag Anableddau
Gwybodaeth Ariannol
Gwybodaeth am Yrfaoedd
Dysgwyr o’r Gwasanaethau Prawf
I gael rhagor o wybodaeth un unrhyw un o’r pynciau uchod, gweler y Polisi Cymorth i Ddysgwyr sydd ar ochr dde’r dudalen hon. Os bydd arnoch angen unrhyw wybodaeth bellach nad yw ar gael ar wefan y Coleg, cysylltwch â
Becky Watson Stubbs.
Mae copi o’r daflen newydd ar gyfer dysgwyr ar gyfer 2010-11 ar gael ar y dudalen hon, ac mae hon yn cael ei dosbarthu i holl ddysgwyr y Coleg ar hyn o bryd. Mae Polisi Cymorth i Ddysgwyr y Coleg a’r Diagram Cymorth Ychwanegol hefyd ar gael.
I gael rhagor o wybodaeth am wasanaeth Cymorth i Ddysgwyr, gweler y tudalennau canlynol:-
Sgiliau Astudio
Cronfa Ariannol Wrth Gefn